Paul Flynn
Mae gwleidydd o Gymru yn bwriadu herio rheol sy’n gwahardd Aelodau Seneddol rhag trafod y Teulu Brenhinol.

Mae Erskine May, llyfr rheolau Ty’r Cyffredin, yn gwahardd Aelodau Seneddol rhag trafod gweithredoedd personol aelodau’r Teulu Brenhinol.

Roedd Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, wedi ceisio defnyddio ei amser yn ystod dadl yn Neuadd San Steffan i drafod ymddygiad y Tywysog Andrew.

Roedd Dug Efrog dan y lach ar y pryd ar ôl datguddiadau ynglŷn â’i ymddygiad personol.

Ond dywedodd yr AS Ceidwadwol, Peter Bone, oedd yn cadeirio’r drafodaeth, nad oedd Paul Flynn oedd yn cael trafod y mater.

Ond ychwanegodd y byddai hawl ganddo drafod a ddylai Aelodau Seneddol gael yr hawl i drafod y Teulu Brenhinol ai peidio.

Bydd y mater yn cael ei drafod mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin heno, meddai Paul Flynn wrth Golwg 360.

Fe fydd y ddadl hanner awr yn cael ei chynnal am 10.30pm.

“Dyw hi ddim yn bosib dweud unrhyw beth sydd ddim yn barchus am y teulu brenhinol ar hyn o bryd,” meddai Paul Flynn.

“Ond mae angen i ni allu bod yn agored,” meddai cyn ychwanegu fod y system bresennol yn un “hynafol” a “di-angen”.

“Mae’r system bresennol yn hen ffasiwn.”

Y cam nesaf ar ôl y ddadl fyddai cynnig newid y rheol, meddai.