Bydd y Tywysog William yn dychwelyd i’w waith yn beilot hofrennydd chwilio ac achub ar Ynys Môn heddiw, pedwar diwrnod yn unig ar ôl ei briodas ddydd Gwener.

Treuliodd Dug Caergrawnt a’i wraig Kate Middleton benwythnos tawel mewn man anhysbys ar ôl penderfynu oedi eu mis mel, cyn dychwelyd i’w cartref ar Ynys Môn neithiwr.

“Fe fydd hi’n ddiwrnod arferol o waith ar ôl y briodas – does yna ddim cynlluniau arbennig,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe fydd yn gyfle i’r Tywysog William ddiolch i’w gyfeillion yn yr Awyrlu Brenhinol ar ôl iddyn nhw hedfan dros ei ben wrth iddo yrru ei wraig newydd o Balas Buckingham i Dŷ Clarence yn Aston Martin ei dad.

Does dim gwybodaeth eto ynglŷn â phryd na lle y bydd mis mel y pâr priod – mae’r bwcis yn credu mai’r Caribî neu Kenya yw’r cyrchfannau mwyaf tebygol.