Tony Blair
Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair wedi datgan ei ddiolchgarwch i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama am y cyrch milwrol a laddodd Osama bin Laden. 

Mewn datganiad fe ddywedodd Tony Blair bod y newyddion yn dangos bod y “rhai hynny sy’n gweithredu’n derfysgol yn erbyn pobl ddiniwed yn wynebu cyfiawnder, beth bynnag yr amser mae’n gymryd.”

Tony Blair oedd Prif Weinidog Prydain adeg ymosodiadau 9/11 yn erbyn yr Unol Daleithiau yn 2001 yn ogystal â’r bomio yn Llundain yn 2005. 

“Mae fy niolchgarwch yn mynd allan i Arlywydd Obama a’r rhai hynny oedd wedi gweithredu’r cyrch mor wych,” meddai Tony Blair. 

“Ni ddylen ni byth anghofio mae 9/11 oedd yr ymosodiad terfysgol gwaethaf yn erbyn sifiliaid y Deyrnas Unedig ac mae ein meddyliau gyda phob un ohonynt – Americanwyr, Prydeinwyr a phobol o wledydd ar draws y byd – a gollodd eu bywydau.

“Roedd 9/11 nid yn unig yn ymosodiad ar yr Unol Daleithiau, ond hefyd ar bawb oedd yn rhannu’r gwerthoedd gorau.

“Mae hyn yn gyflawniad enfawr yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth ond r’yn ni’n ymwybodol bod y frwydr yn erbyn terfysgaeth ac ideoleg roedd Osama bin Laden yn ei gynrychioli’r un mor frwd ag erioed.”