Cooper ac Ali yn y sgwar
Mae Muhammad Ali wedi talu teyrnged i’r bocsiwr Syr Henry Cooper, a fu farw yn 76 mlwydd oed.

Bu farw Cooper yng nghartref ei fab yn Surrey ddoe, ddeuddydd yn unig cyn ei ben-blwydd yn 77 mlwydd oed.

Dywedodd Ali, a loriodd Henry Cooper mewn gornest enwog, ond a aeth yn ei flaen i fod yn un o’i gyfeillion agos, ei fod yn “methu â dod o hyd i eiriau” i sôn am y farwolaeth.

“Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei fod e’n dost,” meddai. “Fe fues i’n ymweld ag e ddwy flynedd yn ôl, yn ystod ymweliad â Windsor. Roedd mewn hwyliau da, ac yn edrych yn ffit iawn.

“Roedd gan Henry bob amser wên gynnes i fi, ac roedd hi’n bleser bod yn ei gwmni. Fe fydda’ i’n gweld eisie fy hen gyfaill. Roedd e’n ymladdwr da, ac yn wr bonheddig.”