Muammar Gaddafi - targed NATO
Mae David Cameron yn mynnu fod y llefydd y mae NATO wedi eu dewis fel targedau yn Libya “yn gydnaws” ag amodau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Fe ddaeth y sylwadau ar ôl honiadau fod mab ieuengaf Muammar Gaddafi wedi ei ladd mewn ymosodiad gan y cynghreiriaid.

Fe fu farw Saif al-Arab Gaddafi, 29, pan dargedwyd ei gartref gan o leia’ un o daflegrau NATO.

Mae llywodraeth Libya wedi cyhuddo byddin NATO o dorri cyfreithiau rhyngwladol trwy daro’r ty yn Tripoli, pryd yr honnir y lladdwyd tri o wyrion Muammar Gaddafi hefyd.

Mae David Cameron wedi gwrthod gwneud sylw ar yr “adroddiad di-sail”, ond fe ddywedodd ar raglen Andrew Marr Show ar BBC1 heddiw: “Mae polisi targedau NATO yn gwbwl glir. Mae’n ymwneud â thrio osgoi lladd pobol ddiniwed, gan dargedu Gaddafi a’i beiriant rhyfel.

“Mae hynny’n golygu targedu tanciau a gynnau… ond mae hefyd yn golygu targedu canolfannau rheoli.”