Y briodas yn Abaty Westminster ddoe
Ar ôl diwrnod yn llygad miliynau o bobl ledled y byd fe fydd y pâr priod newydd William a Kate yn diflannu i gyrchfan dirgel ym Mhrydain dros y penwythnos.

Yn wahanol i’r hyn gafodd ei ddweud mewn adroddiadau blaenorol, fe fydd William, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Dug Caergrawnt, yn ôl wrth ei waith fel peilot hofrennydd achub i’r RAF yn y Fali ym Môn yr wythnos nesaf.

Fe fu’r ddau’n dathlu eu priodas hyd oriau mân y bore gyda 300 o deulu a ffrindiau agos ym Mhalas Buckingham neithiwr.

Roedd dyfalu y gallai’r cwpl fod yn treulio’u mis mêl yn Affrica neu ar ynys dawel yn y Caribî, ond dywedodd llefarydd ar ran y teulu brenhinol na fyddan nhw’n mynd dramor ar fis mêl ar hyn o bryd.

Mae Balmoral, cartref y Frenhines yn yr Alban, wedi cael ei enwi fel un o’r llefydd y gallan nhw fod yn treulio’r penwythnos yma ynddo.