Croes
Mae cynlluniau i ganiatau i ysgolion Eglwys Loegr dderbyn mwy o ddisgylion sydd ddim yn dilyn y ffydd, wedi cael eu croesawu.

Gan alw am ad-drefnu radical o’r rheolau mynedig, mae Esgob Rhydychen, John Pritchard, yn dweud y dylid newid polisïau sy’n ffafrio plant crefyddol – hyd yn oed os ydi hynny’n effeithio ar ganlyniadau’r ysgol.

Mae wedi annog prifathrawon i gadw dim mwy na 10% o’r llefydd gwag yn yr ysgolion ar gyfer plant sy’n mynd i’r eglwys.

Mewn cyfweliad gyda’r Times Educational Supplement, meddai’r Parchedig Pritchard, sy’n gadeirydd bwrdd addysg Eglwys Loegr: “Fe fydd gan bob ysgol bolisi sy’n caniatau canran o’r llefydd i fynychwyr eglwys… be’ ydw I’n ddweud ydi fod angen lleihau’r ganran honno, oherwydd mai ein cyfrifoldeb cynta’ ni ydi gwasanaethu cymuned ehangach.

“Yn y diwedd, dw I’n gobeithio y gallwn ni leihau’r nifer o lefydd i eglwyswyr i 10%.”

Mae gan Eglwys Loegr tua 4,800 o ysgolion, ac mae’r rhan fwya’ ohonyn nhw’n ysgolion cynradd.