Ronan Kerr
Mae dyn wedi’i gyhuddo o droseddau’n ymwneud â marwolaeth y plismon Ronan Kerr yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd yn ymddangos o flaen llys ynadon fory wedi’i gyhuddo o fod ag arfau a ffrwydron yn ei feddiant gyda’r bwriad i beryglu bywyd ac o fod ag offer ar gyfer terfysgaeth.

Dyw Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon ddim wedi cyhoeddi enw’r dyn, sy’n 33 oed, ond, adeg y lladd, roedden nhw’n rhoi’r bai ar fudiadau gweriniaethol ymylol.

Ronan Kerr , 25 oed, oedd un o’r genhedlaeth newydd o Babyddion oedd wedi eu denu i fod yn rhan o’r gwasanaeth heddlu newydd yng Ngogledd Iwerddon ac fe gafodd ei ladd gan fom o dan ei gar yn Omagh.

Roedd dau berson arall wedi cael eu holi a’u rhyddhau ynghynt yr wythnos hon.