Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu dechrau brechu moch daear er mwyn profi nad oes angen eu difa.

Fe fydd yr arbrawf yn cael ei gynnal mewn rhan o Ddyfnaint lle y mae yna lawer iawn o wartheg wedi gorfod cael eu difa o ganlyniad i TB ychol.

Bydd y cynllun pedair blynedd yn cael ei gynnal ystâd 6,400-acr Killerton ac yn costio £80,000 y flwyddyn.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth mai brechu oedd y “modd ymarferol o fynd i’r afael” â TB ychol.

Daw hyn wedi i Aelodau Cynulliad Cymru bleidleisio bron yn unfrydol o blaid parhau â chynllun i ddifa moch daear yn ne-orllewin Cymru ddiwedd mis Mawrth.

Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, bydd difa moch daear mewn rhannau o Sir Benfro, Caerfyrddin a Ceredigion yn cael gwared ar TB ychol.

Cafodd bron i 35,000 o wartheg eu lladd y llynedd o ganlyniad i TB ychol, sy’n broblem fawr yng Nghymru a De Orllewin Lloegr.

“Mewn sawl rhan o Brydain mae yna broblemau ymarferol amlwg wrth geisio difa moch daear a lleihau TB ychol mewn gwartheg,” meddai Mark Harold, cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ne Orllewin Lloegr.

“Brechu moch daear yw’r modd mwyaf effeithiol o reoli’r afiechyd mewn anifeiliaid gwyllt.

“Fe fydd y cynllun yma yn dangos fod modd brechu moch daear dros ardal helaeth, ac fe fydd yn arwain at frechu moch daear mewn ardaloedd eraill yn hytrach na’u difa.”