Mae yna berygl y bydd unrhyw wyau siocled yn toddi yn y gwres dros benwythnos y Pasg, wrth i broffwydi’r tywydd ragweld y bydd pethau’n poethi eto.

Mae arbenigwyr bellach yn disgwyl mai mis Ebrill eleni fydd un o’r poethaf ers dechrau cadw cofnodion.

Ddoe oedd diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yma, wrth i’r tymheredd gyrraedd 25.4 gradd Celsius ym Mharc St James, Llundain.

Mae disgwyl i’r tymheredd yng Nghymru gyrraedd 20 gradd heddiw, 22 gradd yfory, ac aros yn uchel drwy gydol y penwythnos.

“Os ydi’r tywydd poeth yn parhau fe allai mis Ebrill dorri record 2007 pan gyrhaeddodd y tymheredd uchafswm cyfartalog o 18.9C,” meddai Alison Cobb o gwmni tywydd MeteoGroup.

“Fe fydd hi’n parhau’n gynnes am weddill yr wythnos ac fe fydd yna lawer iawn o heulwen yn y rhan fwyaf o lefydd.

“Mae yna berygl y bydd yna law mewn rhai mannau, ond ar y cyfan mae’n edrych yn braf iawn.”

Ychwanegodd mai tua 14-15 gradd Celsius oedd yr uchafswm cyfartalog yr adeg yma o’r flwyddyn.

Mae yna rybuddion y gallai’r diffyg glaw arwain at brinder dŵr mewn rhai rhannau o’r wlad, meddai MeteoGroup. Mae rhai cronfeydd dŵr eisoes yn isel.