Neil Lennon
Mae bomiau mewn parseli wedi eu hanfon at hyfforddwr clwb pêl-droed Celtic, Neil Lennon, yn ogystal â chyfreithiwr a gwleidydd.

Mae Heddlu Strathclyde yn ymchwilio ar ôl i’r parseli “allai fod wedi gwneud niwed” gael eu hanfon at Neil Lennon, Paul McBride QC a’r gwleidydd Trish Godman.

Y gred i ddechrau oedd mai bomiau ffug oedden nhw ond mae arbenigwyr wedi cadarnhau y gallen nhw fod wedi ffrwydro.

Daethpwyd o hyd i’r bom oedd wedi ei anfon at Neil Lennon yn Swyddfa Bost Kirkintilloch ar 26 Mawrth.

Ar 28 Mawrth daethpwyd o hyd i fom oedd wedi ei anfon at Trish Godman, o’r Blaid Lafur, yn ei swyddfa etholaethol, ac ar 15 Ebrill darganfuwyd y bom oedd ar ei ffordd at Paul McBride.

“Roedden nhw’n ddyfeisiau oedd wedi eu creu er mwyn niweidio pobol. Rydyn ni’n ystyried y mater yn un difrifol iawn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Roedd Trish Godman wedi ei gweld yn gwisgo crys Celtic yn Senedd yr Alban, ac roedd Paul McBride QC wedi cynrychioli Neil Lennon yn ystod trafodaethau gyda Chymdeithas Pêl-droed yr Alban.

Yn gynharach eleni cafodd parseli oedd yn cynnwys bwledi eu hanfon at Neil Lennon, yn ogystal â’r chwaraewyr Paddy McCourt a Niall McGinn.

Mae’r tri ohonyn nhw’n dod o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol.

Nid dyma’r tro cyntaf i Neil Lennon, 39 oed, gael ei fygwth. Cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2002 ar ôl cael ei fygwth gan grŵp o Unoliaethwyr Ulster.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, na ddylen nhw “oddef y math yma o droseddu yn yr Alban”.

“Fe ddylai pawb sy’n caru pêl-droed ddod at ei gilydd er mwyn beirniadu’r rheini sy’n defnyddio’r gêm fel esgus ar gyfer eu casineb truenus a pheryglus.”