Mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid benben â’i gilydd wrth ymgyrchu yn y refferendwm ar newid y drefn bleidleisio yn etholiadau San Steffan.

Mae David Cameron yn pwyso ar yr etholwyr i “beidio â cherdded yn eu cwsg” i’r drefn bleidlais amgen, tra mae arweinydd Llafur, Ed Miliband yn apelio ar i bobl gael eu harwain gan “obaith yn hytrach nag ofn”. 

Mae Ed Milliband yn cyhuddo ymgyrchwyr yn erbyn y bleidlais amgen (AV) o godi bwganod. 

Roedd yn siarad mewn digwyddiad i hyrwyddo’r bleidlais o blaid pleidlais amgen wrth i’r Prif Weinidog, David Cameron ymddangos gyda chyn Ysgrifennydd Cartref Llafur, John Reid mewn digwyddiad dros bleidlais ‘Na’. 

Fe ddywedodd Ed Milliband bod yr honiad y byddai system AV yn helpu pleidiau eithafol fel y BNP yn gwbl ddi-sail.

“Y ffaith yw fod y BNP yn ymgyrchu dros bleidlais na yn y refferendwm,” meddai.

Fe wrthododd hefyd y farn y byddai newid system pleidleisio yn arwain at fwy o glymbleidiau. 

Ond dywed David Cameron y byddai’r system AV yn “anghywir  i Brydain.” 

“Mae’n aneglur, annheg, gostus, ac fe allai olygu bod pobl sy’n gorffen yn drydydd mewn etholiad yn gallu ennill.  Fe fyddai’n gam yn ôl i’r wlad,” meddai’r Prif Weinidog.