Mark Serwotka
Mae miloedd o staff Canolfannau Gwaith yn ar streic 24 awr heddiw dros ffrae ynglŷn ag amodau gwaith. 

 Bydd aelodau o undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, sydd wedi’u lleoli mewn dros 30 o ganolfannau galw ledled y Deyrnas Unedig, yn rhoi’r gorau i’w gwaith am y diwrnod ar ôl cyhuddo’r rheolwyr o beidio dangos parodrwydd i drafod. 

 Roedd 43% o’r 7,000 o aelodau wedi pleidleisio gyda 70% o blaid y streic 24 awr. 

 Fe ddaw’r penderfyniad diweddaraf yn dilyn streic dau ddiwrnod ym mis Ionawr gan dros 2,000 o weithwyr canolfannau gwaith Jobcentre Plus. 

 Mae’r undeb wedi dweud eu bod nhw am wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid yn y canolfannau a dod â’r diwylliant o dargedau i ben. 

 “Ry’n ni’n cael ein hatal rhag darparu gwasanaeth o safon dda i’r cyhoedd oherwydd targedau diangen ac afrealistig,” meddai Jane Aitchison o undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol. 

 Mae ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mark Serwotka wedi dweud y dylai’r llywodraeth fod yn buddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus er mwyn helpu cael pobl yn ôl i weithio yn gyflymach i helpu’r economi i dyfu.