Traffordd yr M1 (y llinell las ar y map)
Fe fydd pob lôn tua’r de o’r M1 rhwng cyffyrdd 1 a 4 yn dal i fod wedi cau ‘am gyfnod amhenodol’, yn ôl Asiantaeth Priffyrdd Lloegr.

Mae’r adran saith milltir wedi bod ynghau ers dydd Gwener ar ôl tân mewn safle sgrap oddi tan draphont o’r draffordd yn ardal Mill Hill o ogledd Llundain.

Roedd yr Asiantaeth Priffyrdd wedi gobeithio ailagor un lôn tua’r de dros nos ac ail lôn yn ddiweddarach, ond maen nhw bellach yn rhybuddio y gallan nhw fod wedi cau trwy’r wythnos.

Mae pryder y bydd hyn yn amharu’n ddrwg ar drafnidiaeth i mewn ac allan o Lundain ar drothwy cyfnod gwyliau’r Pasg.

Cafodd dwy lôn tua’r gogledd eu hailagor ddoe, ond mae modurwyr yn cael eu hannog i osgoi teithio ar y rhan hon o’r draffordd os nad oes rhaid.

Anawsterau

Dywed datganiad ar ran yr Adran Priffyrdd:

“Mae peirianwyr wedi bod yn gweithio trwy’r nos i geisio ailagor lonydd tua’r de.

“Rydym yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn ac mewn lle cyfyngedig ac wedi wynebu anawsterau annisgwyl wrth geisio symud yr offer mawr a thrwm sydd ei angen i atgyfnerthu’r bont.”

Dywedodd y gweinidog sy’n gyfrifol am ffyrdd yn Lloegr, Mike Penning, na fyddai’r draffordd yn ailagor yn llawn tan “tua chanol i ddiwedd yr wythnos nesaf”.

“Rydym yn gweithio cyn gyflymed ag sy’n bosibl i ailagor lonydd ar yr M1,” meddai. “Fodd bynnag, rhaid i ddiogelwch gael blaenoriaeth.

“Fel cyn-ymladdwr tân mae gen i brofiad uniongyrchol o danau o’r math yma. Dw i wedi gweld y difrod i’r bont ac ni ddylid bychanu ei ddifrifoldeb.”