David Cameron
Torri’r system fudd-daliadau yw un o’r ffyrdd o dorri ar fewnfudo i wledydd Prydain, yn ôl y Prif Weinidog.

Fe fydd David Cameron heddiw’n cyhoeddi cynlluniau i dorri ar nifer y mewnfudwyr sy’n cael dod i’r Deyrnas Unedig.

Ond un o’r prif resymau am y cynnydd mewn mewnfudo, meddai, yw bod y system fudd-daliadau’n talu i bobol gwledydd Prydain am fod yn ddi-waith.

Yr angen am “fewnfudo da, nid mewnfudo torfol” fydd un o brif negeseuon ei araith wrth anelu at fynd â ffigurau mewnfudo’n ôl i lefel 1998.

Beio Llafur

Yn ystod y cyfnod Llafur, o 1997 i 2009, meddai, roedd 2.2 filiwn o bobol dramor wedi dod i wledydd Prydain a nhw oedd wedi mynd â thri-chwarter y 2.5 miliwn o swyddi a gafodd eu creu bryd hynny.

Roedd David Cameron yn cyhuddo Llafur o “siarad yn gryf a gwneud dim” a bod hynny wedi agor y drws i bleidiau eithafol.

Fe fyddai delio’n rhesymol gyda mewnfudo yn tynnu gwynt o hwyliau’r rheiny, meddai.

Bwriad y Llywodraeth yw ei gwneud hi’n fwy anodd i bobol ddod i mewn i weithio, i’w gwneud hi’n fwy anodd i droi fisa tros dro’n fisa parhaol ac i ddelio gyda chamddefnydd o’r system.

Lles a mewnfudo – ‘dwy ochr i’r un geiniog’

Dyma rai dyfyniadau o’r araith sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw;

“Dyma’r cwestiwn go iawn: mae mewnfudwyr yn llenwi bylchau yn y farchnad lafur sy’n cael eu gadael yn hollol agored gan system les sydd, am flynyddoedd, wedi talu i bobol Prydain am beidio â gweithio.

“Dyna lle mae’r bai – ar ein system les druenus a’r llywodraeth ddiwetha’ a fethodd yn llwyr â’i diwygio.

“Felly, mae mewnfudo a diwygio lles yn ddwy ochr i’r un geiniog. A siarad yn  syml, fyddwn ni byth yn rheoli mewnfudo’n iawn os na fyddwn ni’n mynd i’r afael â dibyniaeth ar y system les.”