Fe fydd hi’n ofynnol i’r heddlu a’r gwasanaethau prawf gynnal adolygiad o bob achos o lofruddiaeth yn y cartref yng Nghymru a Lloegr o heddiw ymlaen.

Gydag o leiaf ddau o bobl yn cael eu lladd bob wythnos gan eu partneriaid neu gyn-bartneriaid, y bwriad yw sicrhau y bydd gwersi’n cael eu dysgu.

Bellach, merched rhwng 16 a 19 oed yw’r rhai sydd mewn mwyaf o berygl o gael eu cam-drin yn y cartref, yn ôl y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Keith Starmer.

Dywedodd fod trais yn y cartref yn erbyn merched yn eu harddegau’n llawer mwy cyffredin nag a gredwyd o’r blaen ac y gall fod cenhedlaeth newydd o ddioddefwyr yn ein hwynebu.

“Mae trais yn y cartref yn drosedd ddifrifol sy’n difetha bywydau, yn chwalu teuluoedd ac yn cael effaith barhaol,” meddai.

“Mae’n rhaid i’r heddllu ac erlynwyr wneud mwy i fynd i’r afael ag ef.”

Mae ffigurau’n dangos bod 12.7% o ferched rhwng 16 a 19 oed wedi dioddef camdriniaeth yn y cartref dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’r ystadegau hyn yn dangos bod merched mewn mwy o berygl o ddioddef trosedd yn eu herbyn yn eu cartref nag yn unlle arall,” meddai.

Yn y flwyddyn 2009/10 cafodd 94 o ferched a 21 o ddynion eu lladd gan bartneriaid neu gyn-bartneriaid.