Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae awdurdod lleol wedi eu beirniadu ar ôl gwrthod cais gweriniaethwyr i gau ffordd er mwyn cynnal parti stryd fydd yn gwrthwynebu’r briodas frenhinol.

Mae grŵp ymgyrchu Republic cyhuddo Cyngor Camden o wahaniaethu ar sail cred wleidyddol.

Dywedodd y cyngor bod y cais wedi ei wrthod am nad oedd trigolion lleol eisiau gweld y parti yn cael ei gynnal yno.

Dywedodd swyddog gweithredol Republic, Graham Smith, eu bod nhw’n bwriadu cymryd cyngor cyfreithiol i weld a oedd modd gwrthdroi’r penderfyniad.

“Mae’n ymosodiad gwarthus ar hawliau gweriniaethwyr i leisio’u barn a chynnal digwyddiad heddychol a hwylus,” meddai Graham Smith.

“Mae Cyngor Camden yn caniatáu i rai trigolion a busnesau lleol wahardd unrhyw ddigwyddiad nad ydyn nhw’n ei gefnogi.”

Roedd y grŵp wedi gobeithio cynnal y digwyddiad ar Stryd Earlham yn ardal Seven Dials, Covent Garden, sy’n boblogaidd â thwristiaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Camden nad oedden nhw’n ymwybodol fod yna unrhyw gysylltiad rhwng Republic a’r lleoliad yr oedden nhw wedi ei ddewis ar gyfer y parti.

“Roedd y gymuned yn pryderu y byddai cynnal y parti yno yn achosi anrhefn,” meddai’r llefarydd.

“Roedd llawer o fusnesau lleol wedi gwrthwynebu’r digwyddiad gan ddweud y byddai’n mynd yn groes i ysbryd y briodas frenhinol.”