Mae siopau stryd fawr Prydain wedi dioddef y cwymp mwyaf mewn gwerthiant yn eu hanes, yn ôl Consortiwm Mân-werthu Prydain.

Roedd cwsmeriaid wedi gwario 1.9% yn llai ym mis Mawrth na blwyddyn yn ôl, y cwymp mwyaf ers dechrau’r arolwg misol yn 1995.

Roedd y Pasg yn gynharach y llynedd ac roedd hynny wedi effeithio ar y ffigyrau, ond dywedodd y Consortiwm Mân-werthu Prydeinig ei fod yn amlwg nad oedd cwsmeriaid yn fodlon gwario “os nad oedd wir angen gwneud hynny”.

Rhybuddiodd y consortium na fyddai rhai mân-werthwyr yn gallu goroesi os oedd pethau’n parhau’r un fath, ac y gallai sawl un orfod cau.

“Mae cwsmeriaid wedi bod yn gwario llai ers canol mis Ionawr,” meddai Helen Dickinson , pennaeth KPMG, a drefnodd yr arolwg ar y cyd â’r Consortiwm.

“Bydd mân-werthwyr yn ei chael hi’n anodd goddef hyn yn y tymor hir ac yn gobeithio y bydd y cyfnod gŵyl banc estynedig a’r briodas frenhinol yn hwb i’w busnesau nhw.”

Mae cwmnïau Mothercare, HMV, Currys, PC World a Dixons wedi rhybuddio bod elw wedi bod yn isel dros yr wythnosau diwethaf.