Dinas Llundain
Dylai banciau Ynysoedd Prydain gadw cynilion eu cwsmeriaid a’u buddsoddiadau ar wahân yn ôl cynigion newydd gan y Comisiwn Annibynnol ar Fancio.

Mae’r Comisiwn  hefyd wedi galw ar gwmni Lloyds Banking Group i werthu ambell i gangen er mwyn hybu rhagor o gystadleuaeth o fewn y sector.

Mae’r adroddiad dros dro – fe fydd argymhelliad terfynol ym mis Medi – yn awgrymu mesurau allai atal argyfwng ariannol arall fel yr un a welwyd yn 2008.

Byddai diogelu cynilion cwsmeriaid yn eu hamddiffyn nhw pe bai yna chwalfa ariannol arall a sicrhau nad oes angen gwario arian y trethdalwyr er mwyn achub y banciau.

Dywedodd pennaeth y Comisiwn, Syr John Vickers, fod dadl gref dros rannu banciau adwerthol a banciau sy’n buddsoddi arian.

Ychwanegodd fod y penderfyniad i gyfuno banciau Lloyds a HBOS er mwyn creu Lloyds Banking Group wedi bod yn gamgymeriad.

“Dyw hynny heb wneud lles i gystadleuaeth ac mae wedi gwneud drwg i sefydlogrwydd ariannol hefyd,” meddai wrth raglen Today Radio 4.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, ei fod yn “croesawu” yr adroddiad, a’i fod yn cadarnhau “nad yw parhau â’r status quo yn bosib”.