Bydd cyfnod o dywydd poethach na’r arfer yn dod i ben heddiw a thywydd oerach a gwlypach yn cymryd ei le.
Bydd gwynt a glaw yn sgubo i mewn o’r gogledd-orllewin, gan lusgo’r tymheredd yn ôl i lawr i’r cyfartaledd misol.
Roedd tywydd crasboeth yn bron pob rhan o wledydd Prydain dros y penwythnos. Cyrhaeddodd y tymheredd yn Aberdeen yn yr Alban 23 gradd Celsius, ddwy radd yn uwch na’r Algarve.
Dan gwmwl
Mae disgwyl y bydd rhai rhannau o’r wlad yn sych yfory ond bydd gwledydd Prydain gyfan dan gwmwl erbyn dydd Mercher, yn ôl proffwydi’r tywydd.
“Mae’r tywydd barbeciw wedi cefnu arnom ni am y tro, ac fe fydd y tywydd yn oerach ac yn wlypach dros y dyddiau nesaf,” meddai Victoria Kettley o gwmni tywydd MeteoGroup.
“O ran tymheredd fe fydd hi’n oerach dros ogledd a gorllewin Prydain, ac fe fydd tymheredd tua 11-14 gradd Celsius.”
Ychwanegodd fod disgwyl glaw trwm yn y gogledd a’r gorllewin ddydd Mercher.