Nick Clegg
Mae ymgynghorydd pennaf y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi dweud y gallai ymddiswyddo.

Mae’n anhapus ynglŷn â diwygiadau Llywodraeth San Steffan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n effeithio ar Loegr yn unig.

Rhybuddiodd Norman Lamb bod cyflymder y newidiadau sy’n cael eu cynnig gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Andrew Lansley, yn “beryglus iawn”.

Dywedodd ei fod yn cytuno â rhoi rhagor o bŵer a chyfrifoldeb i feddygon teulu “mewn egwyddor”, ond fod angen newid “graddol”.

Wrth ymddangos ar raglen The Politics Show, dywedodd Norman Lamb ei fod wedi dweud wrth Nick Clegg ei fod yn bwriadu dweud ei ddweud, ond ei fod yn cynrychioli ei farn ei hun yn unig.

“Fel y mae pethau mae gen i bryderon mawr ac rydw i’n credu ei fod yn iawn fy mod i’n mynegi hynny,” meddai.

Roedd yn cytuno fod angen newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a bod angen i feddygon teulu chwarae rhan blaenllaw.

Ond ychwanegodd y byddai’n “drueni mawr pe baen ni’n brysio’r broses ac yn gwneud cawlach o bethau”.

“Fy mhryder yw’r perygl ariannol os ydi’r newid yn digwydd yn rhy gyflym ac yn bygwth gwasanaethau a chleifion, ac mae’r perygl gwleidyddol yn enfawr.

“Ac yn fwy na dim, mae’n bwysig fod unrhyw un sy’n malio am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys y llywodraeth, yn gwneud hyn yn iawn.”