Mae dynes oedrannus wedi marw ar ôl cael ei thynnu o garafán oedd wedi mynd ar dân mewn gwersyll gwyliau.

Galwyd y gwasanaethau brys i Barc Carafanau Beaconsfield yn Amwythig, toc wedi 10pm neithiwr.

Roedd y ddynes, oedd yn ei 80au, wedi ei llusgo allan o’r garafán erbyn i’r heddlu gyrraedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Mercia ei bod hi wedi marw yn y fan a’r lle.

Dyw’r heddlu ddim yn ystyried y farwolaeth yn un amheus ar hyn o bryd ond maen nhw’n ymchwilio i gael gwybod beth achosodd y tân.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 03003333000.