Mae elusen wedi cyhuddo’r BBC o geisio cuddio’r ffaith fod dau geffyl wedi marw yn ystod ras y Grand National ddoe.

Bu’n rhaid i’r ras osgoi dwy ffens ar yr ail gylchdaith yn Aintree oherwydd bod ceffylau wedi disgyn a dioddef anafiadau marwol.

Dywedodd elusen anifeiliaid nad oedd sylwebwyr y BBC wedi crybwyll y ceffylau marw, gan gyfeirio at “rwystrau” ar y gylchffordd.

“Fe wnaeth y BBC eu gorau i guddio’r marwolaethau,” meddai Andrew Tyler, cyfarwyddwr Animal Aid, wrth bapur newydd y Daily Telegraph.

Dywedodd fod ymdriniaeth y gorfforaeth o’r ras yn “afiach” a “dideimlad”.

Dyna oedd y tro cyntaf yn hanes y Grand National y bu’n rhaid osgoi neidio dwy ffens oherwydd bod ceffylau wedi eu hanafu yno.

Fe fu farw Ornais, dorrodd ei wddf, a Dooneys Gate, a dorrodd ei gefn. Mae 20 ceffyl wedi marw yn ystod y Grand National ers y flwyddyn 2000.