Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae dros hanner pobol Gwledydd Prydain yn credu y dylai’r Tywysog William fod yn frenin ar ôl i’w fam-gu farw, yn ôl canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Mae un ym mhob tri hefyd eisiau i’r Frenhines ymddeol o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl yr arolwg gan Panelbase ar ran papur newydd y Sunday Times mae priodas y Tywysog William a Kate Middleton ddiwedd y mis wedi cydio yn nychymyg Prydain.

Roedd 59% o’r 2,000 o oedolion a holwyd rhwng dydd Mawrth a dydd Iau yn credu y dylai’r Tywysog Charles gamu o’r neilltu a chaniatáu i’w fab hynaf ei olynu.

Dim ond 41% oedd yn credu y dylai Charles fod yn frenin ar ôl dyddiau ei fam.

Roedd cefnogaeth y Tywysog William ar ei uchaf ymysg merched ifanc. Roedd 78% o ferched 18-34 oed yn credu y dylai olynu’r Frenhines Elizabeth.

Yn yr Alban, roedd 61% yn credu y dylai William fod yn frenin, a 39% yn credu y dylai Charles gymryd yr awenau.

Roedd 33% o’r rheini a holwyd hefyd yn credu y dylai’r Frenhines ymddeol o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Roedd 42% o ddynion ifanc a 39% o ferched ifanc yn credu y dylai hi roi’r ffidil yn y to.

“Mae’n amlwg fod y briodas ddiwedd y mis wedi effeithio ar farn pobol, a dyw hi ddim yn syndod felly bod tri chwarter y merched ifanc eisiau i’r pâr priod ifanc fod yn frenin a brenhines,” meddai Ivor Knox, cyfarwyddwr Panelbase.

“Y syndod yw bod cefnogaeth Charles mor isel hyd yn oed ymysg pobol sydd dros eu 55 oed. Dim ond ychydig dros 50% o’r rheini oedd eisiau iddo fod yn frenin.

“Ond  nhw oedd y mwyaf cefnogol i weld y Frenhines yn dal ati. Roedd 80% eisiau ei gweld hi ar yr orsedd.”