Nick Clegg
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi dweud y bydd newid i system y bleidlais amgen – AV – yn “ddiwygiad Prydeinig iawn”.

Dywedodd Nick Clegg – oedd wedi wfftio’r system bleidlais amgen cyn dod i rym – mai’r ffordd Brydeinig oedd newid pethau bob yn dipyn yn hytrach nag un newid chwyldroadol.

Fe fyddai’n gam i’r cyfeiriad cywir yn yr un modd a’r penderfyniad i ganiatáu i rai merched bleidleisio yn 1918, meddai.

Roedd wedi ymgyrch o blaid system cynrychiolaeth gyfrannol cyn yr Etholiad Cyffredinol, gan ddweud y byddai’r system bleidlais amgen yn “gyfaddawd bach truenus”.

Ond dywedodd heddiw mai “ceidwadwyr C-bach” a “ffasgwyr ac eithafwyr” yn unig oedd yn gwrthwynebu pleidlais ‘Ie’ ar 5 Mai.

Bydd refferendwm ar newid o’r system bleidleisio cyntaf heibio’r postyn i’r system bleidlais amgen yn cael ei gynnal yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad.

‘Darogan gwae’

Dywedodd Nick Clegg y byddai diwygio’r system bleidleisio yn broses gam wrth gam, fel y broses arweiniodd at bleidleisiau i rai merched yn 1918 ac yna pob merch yn 1928.

Roedd y frwydr honno rhwng pobol oedd eisiau “cam rhesymol tuag at ragor o degwch” a cheidwadwyr oedd yn “rhybuddio y byddai cam i’r cyfeiriad hwnnw yn un trychinebus”.

“Mae ceidwadwyr yn ceisio cynnal pa bynnag system sy’n bodoli ar y pryd,” meddai Nick Clegg.

“Eu tacteg nhw bob tro ydi rhybuddio y bydd unrhyw newid yn arwain at ddyfodol apocalyptaidd.

“Drosodd a thro mae’r ceidwadwyr sy’n darogan gwae ac wedi bod yn anghywir. Fe fydd yr un peth yn wir yn achos y bleidlais amgen.

“Ni fydd y ddaear yn rhoi’r gorau i droi pan fydd pleidleiswyr yn ysgrifennu 1-2-3 ar eu papurau pleidleisio yn hytrach na X.

“Mewn blynyddoedd dw i’n siŵr y bydd y dadleuon yn erbyn y bleidlais amgen yn ymddangos yr un mor ddisynnwyr â’r dadleuon yn erbyn caniatáu i ferched bleidleisio.”