Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi penderfynu cadw cyfraddau llog yn isel heddiw er gwaethaf pwysau arnyn nhw i’w codi er mwyn gostwng chwyddiant.

Mae’r gyfradd llog wedi ei gadw ar 0.5% ers 25 mis, wrth i bryderon barhau am effaith cyfraddau uwch ar y sector manwerthu.

Mae yna arwyddion fod prynwyr yn gwario llai yn wyneb ansicrwydd economaidd a phrisiau bwyd a thanwydd uchel.

Mae chwyddiant wedi cyrraedd 4.4%, ond mae aelodau pwyllgor cyllidol y banc yn disgwyl iddo gyrraedd 5% cyn syrthio’n ôl i 2% y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ian McCafferty, prif ymgynghorydd ariannol y CBI, fod Banc Lloegr mewn “lle anodd”.

“Maen nhw wedi penderfynu gadael pethau fel y maen nhw hyd nes y bydd pethau yn dechrau mynd ychydig yn fwy eglur,” meddai.

“Mae’r pwyllgor cyllidol yn disgwyl i bethau wella rywfaint cyn newid eu safbwynt.”

Bydd perchnogion tai sydd a morgeisi sy’n amrywio yn ôl y gyfradd llog ar eu hennill tra bod cynilwyr a phensiynwyr ar eu colled wrth i chwyddiant leihau gwerth eu harian.