James Bubear
Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff James Bubear, o Landrindod, Powys, yn Afon Avon.

Roedd y myfyriwr 19 oed o Brifysgol Spa Caerfaddon wedi bod ar goll ers noson allan mewn parti gwisg ffansi ar 13 Mawrth.

Cyrhaeddodd James ddim adref a dangosodd delweddau camera cylch cyfyng ei fod wedi treulio 15 munud yn eistedd mewn drws. Daethpwyd i hyd i’w basbort a’i ffon symudol yno yn ddiweddarach.

Cadarnhaodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod nhw wedi tynnu corff o’r afon ddydd Llun, ond doedd hi ddim yn bosib cadarnhau mai James Bubear oedd y corff.

Yn dilyn archwiliad post-mortem cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff y dyn, ac nad oedden nhw’n ystyried ei farwolaeth yn un amheus.

Dywedodd yr heddlu y dylai pobol ifanc wneud yn siŵr nad oedden nhw’n cerdded adref ar eu pennau eu hunain, yn ogystal ag yfed yn gyfrifol, er mwyn osgoi damweiniau o’r fath.

“Hoffwn ddiolch i gyd-fyfyrwyr James a phobol Caerfaddon am eu cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf,” meddai ei fam, Vanda.