Sian O'Callaghan
Mae heddweision sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Sian O’Callaghan wedi cyhoeddi mai merch o’r enw Becky Godden oedd y corff arall daethpwyd o hyd iddo gerllaw.

Dywedodd yr heddlu y byddai Becky Godden yn 29 ddoe.  Roedd hi wedi colli cysylltiad gyda’i theulu a diflannu o ardal Swindon tua wyth mlynedd ‘nôl, medden nhw.

Daethpwyd o hyd i’r corff 17 milltir o gorff Sian O’Callaghan, a deuddydd yn ddiweddarach. Cafodd Becky Godden ei hadnabod drwy ddefnyddio tystiolaeth DNA.

Roedd swyddogion wedi bod yn chwilio trwy gronfeydd data ers dros wythnos er mwyn ceisio adnabod y corff yn Eastleach.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n dilyn gwybodaeth gan Christopher Halliwell, sydd eisoes wedi ymddangos o flaen y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio Sian O’Callaghan.

Fe glywodd cwest yr wythnos ddiwethaf fod Sian O’Callaghan mwy na thebyg wedi marw o anafiadau i’w phen.