Mae pôl piniwn newydd yn awgrymu cwymp mewn cefnogaeth i AV – ‘y bleidlais amgen’ yn y refferendwm fis nesaf.

Fe fydd y bleidlais, ar newid o’r system ‘cyntaf heibio’r postyn’ i’r system ‘bleidlais amgen’ mewn Etholiadau Cyffredinol, yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad, sef 5 Mai.

Yn ôl pôl piniwn gan Populus ar ran papur newydd y Times mae cefnogaeth i’r system ‘pleidlais amgen’ wedi syrthio dros y misoedd diwethaf wrth i’r ymgyrchoedd fagu stêm.

Mae canran y pleidleiswyr sydd yn dweud eu bod nhw o blaid y newid y system yn y refferendwm ym mis Mai wedi syrthio 8% ers mis Chwefror.

Ar yr un pryd, mae’r ganran sy’n dweud eu bod yn erbyn y system newydd wedi cynyddu 8%, yn ôl y pôl piniwn.

Cafodd 2.052 o oedolion eu holi ar hap gan Populous.

Y manylion

  • Dywedodd 33% eu bod nhw eisiau newid y system, o’i gymharu â 41% saith wythnos yn ôl.
  • Dywedodd 37% na fydden nhw’n pleidleisio o blaid y newid, o’i gymharu â 29% ym mis Chwefror.
  • Roedd canran y bobol nad oedd yn siŵr y naill ffordd na’r llall wedi aros ar 30%.

Bydd y pôl piniwn diweddaraf yn ergyd i gefnogwyr yr ymgyrch ‘Ie’, gan gynnwys arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, a Llafur, Ed Miliband.