Mae Camelot wedi annog pobol i gymryd mwy o ofal â’u tocynnau Loteri, gan ddatgelu bod rhai o enillwyr y gorffennol wedi eu cadw mewn llefydd gwirion iawn.

Daw’r rhybudd wrth i’r cwmni lansio ymgyrch i annog pobol i geisio dod o hyd i hen docynnau coll. Mae gwobrwyon gwerth £9 miliwn heb eu hawlio o hyd.

Roedd rhai o enillwyr y gorffennol wedi colli eu tocynnau cyn dod o hyd iddyn nhw mewn llefydd digon annisgwyl, gan gynnwys:

• Dan fasged y ci

• Mewn tin bwyd cath

• Y tu ôl i ddrych y car

• Ym mag colur yr ysgrifenyddes

Heddiw lansiodd y Loteri Genedlaethol ‘Wythnos Cefn y Soffa’, sef ymgyrch i annog pobol sy’n chwarae’r loteri i chwilio am docynnau coll.

Fe fydd soffa anferth yn ymweld â strydoedd Plymouth, Leeds, Stoke, Blackburn a Swydd Rhydychen. Mae yna wobrau o hyd at £1 miliwn heb eu hawlio ym mhob un.

“Dim ond eiliad sydd ei angen i chwilota ymysg y clustogau, ac mae’n anodd gwybod beth ddaw i’r fei,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Yn ein profiad ni mae pobol wedi dod o hyd i’w tocynnau buddugol mewn ambell le anhygoel.”