Awyren Lockerbie
Fe fydd heddlu ac erlynwyr yn yr Alban yn cyfarfod â swyddogion y Swyddfa Dramor fory er mwyn trafod y cyn-aelod o lywodraeth Libya, Musa Kusa. Fe fydd y cyfarfod yn rhan o’r ymchwiliad i fomio awyren uwchben Lockerbie.

Mae’r heddlu a’r erlynwyr wedi gofyn am ganiatad i holi’r gwr a fu’n bennaeth gwybodaeth ac yn weinidog tramor yn llywodraeth Muammar Gaddafi.

“Rwy’n gallu cadarnhau y bydd yna gyfarfod rhwng swyddogion Swyddfa’r Goron a Heddlu Dumfries a Galloway, a’u bod nhw wedi bod mewn cysylltiad agos gyda swyddogion y Swyddfa Dramor dros y dyddiau diwethaf (ers i Musa Kusa ddianc o Libya a chyrraedd Llundain).

Y gred ydi fod Musa Kusa wedi chwarae rhan allweddol yn sicrhau rhyddhau y gwr a gafwyd yn euog o fomio awyren PanAm 103 uwchben Lockerbie, sef Abdelbaset al-Megrahi.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, eisoes wedi dweud bod “pob rheswm” tros gredu y gall Kusa oleuo rhywfaint ar y mater.

Mae’r ymchwiliad i’r bomio yn parhau’n agored.