logo Tesco
Mae Tesco wedi lawnsio eu hymgyrch ddiweddara’ i werthu ceir ail-law.  

Mae Tesco Cars bellach ar gael ar y we, lle y bydd yn arddangos eu stoc o geir ail-law. Fydd ganddyn nhw ddim garejus na chanolfannau gwerthu ceir wyneb yn wyneb.

Fe ddaw’r cam diweddara’ hwn ar ôl i Tesco brynu siâr yn nghwmni gwerthu ceir ar-lein, Carsite.

Fe fydd Tescocars.com yn hysbysebu hyd at 3,000 o geir yr wythnos, a’r rheiny i gyd wedi bod yn geir hurio neu’n geir cwmni cyn dod ar y farchnad. Fe fydd cwsmeriaid yn derbyn 2,000 pwynt ar eu Tesco Clubcard am brynu car.