Car heddlu
Mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn San Steffan wedi cyhuddo’r llywodraeth glymblaid o “gymryd risg” gyda diogelwch y cyhoedd. Fe ddaeth sylwadau Yvette Cooper wedi i uwchswyddog arall rybuddio bod y toriadau i’r gwasanaeth yn ormodol.

Yn ôl Yvette Cooper, mae’n beryg i weinidogion greu “storm berffaith” trwy gwtogi ar yr arian sydd ar gael i heddluoedd, atal troseddau a gwasanaethau prawf.

Meredydd Hughes ydi’r Prif Gwnstabl diweddara’ i wneud sylwadau am y toriadau llym. Mae’n honni y byddai ei lu ef – sef Heddlu De Swydd Efrog – yn cael trafferth i gyflawni ei holl waith gyda llai o arian.