HMS Vengeance
Mae llong danfor Trident wedi torri i lawr yn ystod sesiwn hyfforddi, ac ar ei ffordd yn ôl i’r porthladd yn Faslane, yr Alban.

Mae HMS Vengeance, un o bedair llong danfor Vanguard y Llynges Frenhinol, yn dychwelyd i’r gwersyll.

“Mae Vengeance wedi profi diffygion technegol sydd wedi achosi problemau pwer, felly mae’n dychwelyd i Faslane dan ei phwysau ei hun,” meddai llefarydd. “Mae’n dal allan ar y môr ar hyn o bryd.”

Does gan y problemau ddim oll i’w wneud â’r arfau niwclear ar ei bwrdd, meddai wedyn.

Mae’r llong danfor yn cario hyd at 48 o fomiau niwclear, a hyd at 16 o daflegrau Trident, sy’n pwyso 60 tunnell ac yn gallu taro targedau mor bell I ffwrdd â 4,000 milltir ar y môr. Mae’r llong hefyd yn cario torpidos.