Benjamin Zephaniah
Mae ymgyrchwyr wedi cael eu cyhuddo o ‘ddileu’ bardd croenddu oddi ar daflenni sy’n gofyn am drefn bleidleisio newydd.

Mae’r ymgyrch ‘Ie’ tros drefn AV o ethol Aelodau Seneddol – sy’n cael ei chefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol ac arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, ymysg eraill – wedi defnyddio llun o’r bardd Benjamin Zephaniah ar daflenni a gafodd eu dosbarthu yn Llundain.

Ond mae taflenni sydd wedi eu rhoi trwy ddrysau ymhell o brifddinas Lloegr yn dangos wyneb seren y gyfres deledu Blackadder, Tony Robinson.

Mae’r taflenni’n annog pobol i bleidleisio tros sustem newydd o ethol ASau yn y refferendwm Prydeinig ar Fai 5.

Mae wynebau cyhoeddus fel Joanna Lumley, Eddie Izzard, Colin Firth, Honor Blackman a Stephen Fry hefyd yn ymddangos ar daflenni sydd wedi eu dosbarthu ar draws gwleydd Prydain.

‘Na’

Dywedodd Terry Paul, llefarydd ar ran yr ymgyrch ‘Na i AV’: “Pam fod gan yr ymgyrch ‘Ie’ gywilydd o gefnogaeth Benjamin Zephaniah mewn llefydd fel Cernyw a Hampshire?

“Mae taflenni’r ymgyrch yn dangos pa mor oeraidd ydi gwleidyddiaeth yr ymgyrch ‘Ie’, meddai wedyn. “Rydyn ni wedi rhybuddio y byddai’r drefn AV yn annog pleidiau i fagu safbwyntiau eithafol er mwyn ennill pleidleisiau…”