Cynllun o safle'r Gemau Olympaidd
Mae Heddlu Llundain wedi datgelu mai dyn o Gymru yw’r ail sydd wedi ei arestio ynglŷn â ffrwydron ar safle’r Gêmau Olympaidd.

Fe gafodd ei gymryd i’r ddalfa yn ei gartref yn y Gogledd ddydd Iau ac mae’n dal i gael ei holi ar hyn o bryd ar amheuaeth o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau ei fod yn 43 oed a’i fod yn cael ei gadw mewn swyddfa heddlu yn nwyrain y ddinas.

Y CID yn ardal Newham ond maen nhw wedi pwysleisio nad oes unrhyw gysylltiad terfysgol.

Mae gwraig 40 oed eisoes wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl iddi hithau gael ei harestio ar amheuaeth o fod â deunydd ffrwydrol yn ei meddiant.