Madeleine McCann
Mae rhieni merch fach a ddiflannodd ar wyliau ym Mhortiwgal bron i bedair blynedd yn ôl, wedi rhedeg ras 10km yn Llundain i godi arian ac ymwybyddiaeth am bobol sydd ar goll.

Yn ôl Kate McCann, sy’n dal i gredu fod ei merch fach, Madeleine, yn dal yn fyw, bron i bedair blynedd ers ei diflaniad: “Rydan ni’n rhedeg y ras hon eleni er mwyn cofio am Madeleine a’r holl blant sydd ar goll.

“Rydan ni’n gobeithio ac yn gweddïo y cân’ nhw ddod adra’n saff.

“Rydan ni’n falch iawn o allu cefnogi’r elusen Missing People unwaith eto, oherwydd maen nhw’n elusen bwysig pan mae rhywun yn diflannu.”

Roedd Gerry a Kate McCann yn rhedeg yn Regent’s Park, Llundain heddiw. Ymhlith y rhedwyr eraill yr oedd Peter Lawrence, tad y gogyddes o Gaerefrog, Claudia Lawrence; a Rachel Elias, chwaer Richey Edwards, gitarydd a chyn-aelod o grwp y Manic Street Preachers.