San Steffan
Fe fyddai sustem bleidleisio newydd yn rhoi diwedd ar y syniad fod gan Aelodau Seneddol job am oes – dy farn Greg Dyke, cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ar y drefn AV.

“Mewn nifer o etholaethau bellach, be’ sydd wedi dod yn bwysig yw, nid cael y pleidleiswyr i’ch cefnogi chi, ond cael eich plaid i’ch enwebu chi,” meddai Greg Dyke.

Yn lawnsiad Prydeinig yr ymgyrch tros sustem newydd AV (alternative vote) heddiw, dywedodd Dyke: “Unwaith yr ydych chi’n cael eich ethol, mae ganddoch chi job am oes dan y drefn bresennol. Dyna pam fod ganddon ni wleidyddion mor dila. Mi fyddai sustem AV yn newid hynny.

“Mae’n rhaid i wleidyddion weithio’n galetach er mwyn ennyn ein cefnogaeth ni, ac maen rhaid iddyn nhw weithio’n galetach er mwyn i ni barhau i’w cefnogi nhw.  

“Dydach chi ddim yn cael job am oes yn unlle arall ym Mhrydain heddiw, felly pam ddylai’r byd gwleidyddol fod yn wahanol?”

Roedd Greg Dyke yn siarad yn yr un cyfarfod â’r digrifwr, Eddie Izzard, yr awdur Rowan Davis, y cyn-athletwr Kriss Akabusi, y cyn-Aelod Seneddol a’r newyddiadurwr rhyfel Martin Bell, a’r cynllunydd ffasiwn Amisha Ghadiali.