Blackpool
Mae daeargryn wedi taro gogledd-orllewin Lloegr heddiw, yn ôl yr heddlu.

Cafwyd cryndod yn ardal Blackpool am tua 3.30 y bore yma, yn ôl llefarydd Heddlu Lancashire.

Roedd yn dweud bod yr heddlu wedi derbyn nifer o alwadau gan bobol yn disgrifio adeiladau’n crynu, ond doedd neb wedi son am ddifrod.

Mae’r Gymdeithas Ddaearegol Brydeinig wedi dweud bod daeargryn Blackpool yn mesur 2.2. ar y raddfa Richter.

Bu daeargryn yn mesur 3.5 yn Coniston, Cumbria, ar Ragfyr 21 y llynedd, ond ni chafwyd unrhyw ddifrod nag anafiadau.

Daeargryn diweddar arall ym Mhrydain oedd yr un yn mesur 5.2 yn Lincolnshire ym mis Chwefror 2008, wnaeth ddifrodi adeiladau ac anafu un dyn.

Ac yn Kent cafodd cartrefi eu difrodi ym mis Ebrill 2007, yn dilyn daeargryn yn mesur 4.3 ar y raddfa Richter.

Roedd y daeargryn wnaeth achosi’r tsunami yn Japan yn mesur 8.9.