Gorsaf niwclear Fukushima
Mae rhywfaint o’r ymbelydredd o orsaf niwclear Fukushima yn Japan wedi cyrraedd Prydain, yn ôl gwyddonwyr.

Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Amgylcheddol yr Alban eu bod nhw wedi canfod gronynnau o’r orsaf niwclear yng Nglasgow.

Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn brwydro i atal rhagor o ymbelydredd rhag gollwng yn yr orsaf niwclear yng ngogledd-ddwyrain Japan.

Cafodd gorsaf niwclear Fukushima ei ddifrodi gan y daeargryn a’r tsunami ar 11 Mawrth.

Dywedodd Dr James Gemmill o’r asiantaeth amgylcheddol bod lefel yr ymbelydredd yn isel iawn.

“Mae’r asiantaeth yn monitro ymbelydredd yn yr Alban ac fe fyddwn ni’n gwneud profion pellach er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd,” meddai.

Dywedodd yr Athro Paddy Regan, arbenigwr ar ymbelydredd o Brifysgol Surrey, nad oedd angen i bobol fod ag ofn.

“Does neb wedi marw o ganlyniad i’r ymbelydredd yn Fukushima,” meddai. “Felly fyddai yna ddim lawer iawn o ymbelydredd wedi ei ganfod yng Nglasgow.

“Does bron i ddim perygl i iechyd y cyhoedd.”