Llwyfan olew
Mae papurau yn yr Alban yn rhybuddio bod peryg i filoedd o swyddi fynd yno oherwydd treth ychwanegol y Canghellor ar elw cwmnïau olew Môr y Gogledd.

Yn eu brwydr yn erbyn y dreth, mae rhai cwmnïau’n rhybuddio y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynlluniau buddsoddi.

Yn ôl papur y Scotsman, mae corff sy’n cynrychioli’r cwmnïau’n sôn am golli cymaint â 40,000 o swyddi – yn y presennol a’r dyfodol.

Fe gawson nhw gyfarfod yn Aberdeen a Llundain ddoe ac, yn ôl llefarydd, “anghrediniaeth” oedd yr ymateb.

Y dreth

Fe gyhoeddodd y Canghellor George Osborne yr wythnos ddiwetha’ y bydd y dreth ar elw’r cwmnïau’n codi o 62% i 81% tra bydd pris olew’n parhau’n uchel.

Dyna’r arian sy’n cael ei ddefnyddio i atal y cynnydd mewn pris petrol i yrwyr ond fe allai’r ddadl droi’n bwnc llosg yn etholiadau’r Alban hefyd, gyda phlaid y Llywodraeth, yr SNP, wedi dweud ers tro mai’r Alban a ddylai gael yr elw o’r diwydiant.

Mae cynrychiolwyr y cwmnïau bellach yn geisio am gyfarfod gyda’r Canghellor.