Protest toriadau - hysbyseb (o wefan undeb y PCS)
Fe gafodd 149 o bobol eu haresti o ar ôl y diwrnod o brotestio yng nghanol Llundain ddydd Sadwrn.

Mae 138 ohonyn nhw wedi eu cyhuddo o dresmasu difrifol yn siop foethus Fortnum & Mason yn ardal Piccadilly.

Roedd y rhan fwya’ o’r rhai sydd wedi eu harestio yn rhan o grwpiau bychain o anarchwyr a phrotestwyr uniongyrchol, yn gweithredu ar wahân i’r brif orymdaith dan ofal yr undebau llafur.

Y gred yw fod  cymaint â 250,000 o bobol wedi mynd i’r ddinas i brotestio’n erbyn toriadau gwario Llywodraeth y Glymblaid.

Y brif orymdaith ‘yn hwyliog’

Roedd Heddlu Llundain yn pwysleisio bod ymddygiad y grwpiau bach yn wahanol iawn i’r brif orymdaith – roedd honno, medden nhw, yn hwyliog a heddychlon.

Roedd mudiadau ymgyrchu wedi dweud ymlaen llaw eu bod nhw’n bwriadu targedu busnesau, gan gynnwys rhai yn y brif stryd siopa, Oxford Street.

Gyda’r heddlu’n cael eu cyhuddo o fethu â gwneud digon i atal yr helynt, maen nhw bellach yn ystyried defnyddio’r un tactegau ag yn erbyn tyrfaoedd pêl-droed i reoli gorymdeithiau.