Sian O'Callaghan
Mae dyn 47 oed wedi ymddangos o flaen llys yn Swindon heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ferch 22 oed, Sian O’Callaghan.

Cafodd y gyrrwr tracsi, Christopher Halliwell, ei gyhuddo o gipio a llofruddio’r ferch ifanc ar ôl iddi adael clwb nos o’r enw Suju yn y dref.

Ddydd Iau y daethpwyd o hyd i’w chorff ger ceffyl gwyn Uffington, 15 milltir i’r dwyrain o Swindon, ac fe gafodd Christopher Halliwell ei arestio yr un dydd.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Wiltshire yn parhau i geisio ffeindio pwy oedd merch arall y daethpwyd o hyd i’w chorff mewn cae yn Swydd Caerloyw.

Dros y Sul, fe gafwyd cyfarfod coffa i Sian O’Callaghan yn Swindon, gyda tua 10,000 o bobol yn casglu ym maes polo’r dref.

Fe gafodd llusernau Chineaidd eu gollwng i’w chofio ac roedd pentyrrau o flodau wedi eu gosod y tu allan i’r clwb nos cyn iddo agor eto am y tro cynta’ ers diflaniad Sian O’Callaghan.