Sian O'Callaghan (llun heddlu)
Mae gyrrwr tacsi wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Sian O’Callaghan, y ferch ifanc o Swindon a aeth ar goll yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd Christopher Halliwell, 47 oed, a gafodd ei arestio yn Swindon ddydd Iau, yn ymddangos o flaen ynadon y dref yfory.

Cafwyd hyd i gorff Sian O’Callaghan gerllaw Ceffyl Gwyn Uffington yn Swydd Rhydychen ddydd Iau.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Heddlu Wiltshire a Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Halliwell wedi cael ei gyhuddo am 9.20 neithiwr o lofruddio Sian O’Callaghan.

Meddai Simon Brenchley, erlynydd ardal dros y goron yn Wiltshire: “Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda Heddlu Wiltshire ac rwyf bellach wedi eu hawdurdodi i gyhuddo Christopher Halliwell o lofruddio Sian O’Callaghan.

“Rhaid imi atgoffa’r cyfryngau i gymryd gofal wrth adrodd digwyddiadau’n ymwneud â’r achos hwn. Mae Mr Halliwell wedi cael ei gyhuddo o drosedd ddifrifol ac mae ganddo hawl i dreial teg. Mae’n hynod o bwysig na ddylid adrodd dim byd a allai ragfarnu unrhyw dreial.”

Mae Halliwell yn dal i gael ei gadw yng ngorsaf heddlu Gablecross yn Swindon.

Mae plismyn ac arbenigwyr fforensig yn dal i chwilio cae yn Swydd Gaerloyw lle cawson nhw hyd i weddillion corff dynol ddoe. Maen nhw’n credu mai gweddillion dynes a gafodd ei lladd rhwng 2003 a 2005 ydyn nhw. Dyw’r ddynes honno ddim wedi cael ei henwi.