Heddiw yw diwrnod y cyfrifiad, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn atgoffa pawb i lenwi eu ffurflenni.

Fe fydd casglwyr yn curo drysau o Ebrill 6 ymlaen mewn cartrefi sydd heb anfon eu holiaduron.

Dywed yr ONS y bydd help a chyngor ar gael i bobl sy’n ei chael hi’n anodd llenwi’r ffurflen, ac y byddai casglwyr yn cyflenwi holiaduron newydd lle mae rhai wedi mynd ar goll neu gael eu difrodi.

Meddai Glen Watson, cyfarwyddwr Cyfrifiad 2011: “Mae cwblhau ffurflen y cyfrifiad yn brydlon a’i hanfon hi’n ôl yn golygu na fydd raid i neb guro ar eich drws i’ch atgoffa chi.

“Mae ystadegau’r cyfrifiad yn galluogi’r awdurdodau yng Nghymru a Lloegr i gynllunio ar gyfer y dyfodol o safbwynt lleoedd mewn ysgolion, tai, ffyrdd, gwasanaethau brys a llu o wasanaethau lleol eraill.”

Ymysg y cwestiynau sy’n cael eu gofyn ar y ffurflen mae un am hunaniaeth genedlaethol, lle mae cyfle i’r atebwr ddisgrifio’i hun fel Cymro neu Gymraes am y tro cyntaf. Mae cwestiynau hefyd ynghylch y gallu i ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg.

Caiff y Cyfrifiad ei gynnal pob 10 mlynedd ym Mhrydain, a chaiff unrhyw wybodaeth am unigolion sydd ynddo ei gadw’n gyfrinachol am 100 mlynedd.