Sian O'Callaghan (llun heddlu)
Mae Heddlu Wiltshire sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Sian O’Callaghan wedi cael hyd i weddillion corff arall mewn cae yn Swydd Gaerloyw.

Fe ddaw’r datblygiad diweddaraf ar ôl i’r heddlu gael mwy o amser i holi dyn sy’n cael ei gadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â llofruddiaeth y ferch 22 oed o Swindon.

Yn dilyn cais i Lys Ynadon Swindon, mae gan yr heddlu bellach tan 3.15 fore Llun i holi’r gyrrwr tacsi 47 oed a gafodd ei arestio fore dydd Iau.

Cafwyd hyd i gorff Sian O’Callaghan gerllaw Ceffyl Gwyn Uffington yn Swydd Rhydychen yr un diwrnod. Roedd hi wedi cael ei gweld ddiwethaf yn gadael clwb nos yn Swindon yn ystod oriau mân bore Sadwrn diwethaf.

Yn dilyn gwybodaeth a gawson nhw gan y dyn a gafodd ei arestio, mae’r heddlu wedi bod yn cloddio mewn cae ar fferm Baxter’s yn ardal y Cotswolds yn Swydd Gaerloyw yn chwilio am ail gorff.

Esboniodd y Ditectif Uwcharolygydd Steve Fulcher:

“Fe ddywedodd y dyn 47 oed sydd yn y ddalfa iddo ladd dynes ifanc rhwng 2003 a 2005. Ni allai fod yn fwy penodol ynghylch y dyddiad, ond dywedodd iddi gael ei chymryd o ardal Swindon.”

Fe wnaeth yr Uwcharolygydd Fulcher apêl gyhoeddus ar i unrhyw un a oedd yn “potsio” yn ardal Ramsbury, ger Marlborough, yn oriau mân nos Sadwrn ddiwethaf, oriau wedi i Sian ddiflannu, gysylltu â nhw heb unrhyw berygl o gael eu harestio am eu gweithgareddau anghyfreithlon.