Mae cannoedd o filoedd wrthi’n gorymdeithio yn Llundain i brotestio yn erbyn toriadau’r llywodraeth ar wario cyhoeddus.

Roedd y TUC wedi amcangyfrif y byddai tua 100,000 o undebwyr llafur ac ymgyrchwyr eraill yn cymryd rhan yn yr orymdaith ond roedd hi’n amlwg fod o leiaf 250,000 o brotestwyr wedi cyrraedd Llundain cyn i’r orymdaith ddechrau.

Fe gychwynnodd yr orymdaith chwarter awr yn gynnar, gydag aelodau’r undeb Unsain a’u harweinydd Dave Prentis ar y blaen.

 “Roedden ni wedi disgwyl presenoldeb anferth gan fod Unsain yn unig wedi trefnu 500 o fysiau a nifer o drenau arbennig – ond mae’r niferoedd yn gwbl anhygoel,” meddai.

“Teuluoedd a gweithwyr cyffredin sydd yma, llawer ohonyn nhw gyda’u plant yma’n anfon neges i David Cameron i roi’r gorau i’r toriadau niweidiol sy’n arwain at golli degau o filoedd o swyddi a chau gwasanaethau gan gynnwys llyfrgelloedd a chartrefi gofal.”

Mae cannoedd o blismyn y tu allan i’r Senedd y tu ôl i fariau haearn wrth i’r protestwyr gerdded i lawr Whitehall.