Slogan y brotest he
Mae’r undebau llafur yn proffwydo y bydd “cannoedd o filoedd” o brotestwyr yn gorymdeithio trwy Lundain heddiw i wrthdystio’n erbyn toriadau gwario’r Llywodraeth.

Mae’r amcangyfrifon yn amrywio rhwng 100,000 a chwarter miliwn a dyma fydd y brotest fwya’ gan undebau ers 20 mlynedd.

Fe fydd 4,500 o heddlu ar ddyletswydd yno hefyd ond mae arweinwyr Cyngres yr Undebau Llafur, y TUC, yn gobeithio am “awyrgylch carnifal”.

Er hynny, mae sôn am nifer o brotestiadau llai sy’n bygwth atal trafnidiaeth yn y brif stryd siopa, Oxford Street, ac am dargedu banciau a rhai busnesau.

Mae disgwyl y bydd miloedd o brotestwyr yn teithio i Lundain o Gymru a’r rhan fwya’n weithwyr o’r sector cyhoeddus.

‘Palu celwyddau’

Mae tua 220,000 o swyddi eisoes wedi cael eu colli o’r sector hwnnw, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Brendan Barber. Ac fe rybuddiodd bod y Gwasanaeth Iechyd mewn peryg yn Lloegr hefyd.

“Gadewch i ni ddweud: wnawn ni ddim gadael i chi ddinistrio’r hyn sydd wedi cymryd cenedlaethau i’w greu. Beth am i ni fod yn giaidd o onest am y toriadau ciaidd hyn. Maen nhw’n mynd i golli swyddi ar raddfa anferth.

“Maen nhw’n mynd i daro’r tlota’ a’r mwya’ bregus yn fwy na neb. Mae unrhyw un sy’n dweud fel arall yn palu celwyddau.”

Yn ôl y Cymro, Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gweision Sifil y PCS, fydd y protestwyr ddim yn “eistedd yn ôl a gadael iddyn nhw ddinistrio gwead ein cymdeithas ni”.