Sian O'Callaghan
Mae’r heddlu yn credu fod pwy bynnag lofruddodd Sian O’Callaghan hefyd wedi lladd person arall “blynyddoedd yn ôl”.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw yn parhau i chwilio am yr ail gorff yn Swydd Gaerloyw ar ôl cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff  Sian O’Callaghan ger pentref Uffington, 15 milltir i’r dwyrain o Swindon.

Dywedodd Steve Fulcher, sy’n arwain yr ymchwiliad ar ran Heddlu Wiltshire, mai “dim ond un” person sydd ar goll yn ôl cofnodion yr heddlu.

Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio safle yn Northleach, gan ddilyn gwybodaeth gan y dyn sydd dan amheuaeth o ladd Sian O’Callaghan.

Yn ôl ffynonellau lleol enw’r dyn sydd dan amheuaeth yw Christopher Halliwell.

“Rydyn ni wedi bod yn chwilio’r ardal drwy’r nos,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd, Steve Fulcher. “Mae’n broses araf a thrylwyr.”

Dywedodd y byddai’r heddlu yn gwneud cais am ragor o amser i holi’r dyn sydd dan amheuaeth.