Y Ceffyl Gwyn yn Uffington
Mae heddlu’n parhau i aros i godi ail gorff o safle ger y Ceffyl Gwyn yn Uffington yn Swydd Rhydychen.

Maen nhw hefyd yn parhau i holi gyrrwr tacsi 47 oed – fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o gipio’r ferch ifanc, Sian O’Callaghan o Swindon.

Mae pobol leol yn dweud mai ei enw yw Chris Halliwell ac mae rhai cymdogion yn dweud ei fod yn ymddangos yn ddyn dymunol a dyn teulu.

Yn ôl Heddlu Wiltshire, y dyn sy’n cael ei holi oedd wedi rhoi gwybod iddyn nhw am yr ail gorff ond dyw hwnnw ddim wedi ei symud o’r safle eto.

Dyw corff Sian O’Callaghan ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol chwaith ond mae’r plismyn yn dweud nad oes amheuaeth pwy yw hi.

Maen nhw wedi apelio ar y wasg a’r cyfryngau i roi llonydd i’w theulu hi ac i ganiatáu iddyn nhwthau symud y ddau gorff “gyda’r parch dyledus”.